Amdanom Ni
Mae Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn hyrwyddo, ategu a gwella addysg a gwerthfawrogiad y cyhoedd o’r celfyddydau drwy annog a threfnu gweithgareddau diwylliannol, fel gweithdai addysgiadol a phrosiectau estyn allan. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2013 ac mae wedi cyfrannu at amrywiaeth eang o brosiectau celfyddydol ers hynny.
Rydym yn cefnogi a chynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys prosiect blaenllaw Creu, ar gyfer pobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl a grwpiau creadigol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar ystod eang o arferion artistig, o’r gair llafar i gelf graffiti a dawnsio fertigol.
Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn gweithio’n agos â sefydliadau partner sy’n cefnogi digwyddiadau celfyddydol ar draws y sir, o ddigwyddiad Cymerwch Ran yn Venue Cymru, sy’n denu 10,000 o bobl dros un penwythnos anhygoel i ddigwyddiadau RSPB Conwy, sy’n defnyddio’r celfyddydau i hyrwyddo gwybodaeth ynghylch natur.
Rhys Meirion, Patron.
Rhys Meirion, Noddwr
Welsh tenor Rhys Meirion has enjoyed international success in opera
and recording and national success in broadcasting.
Mae'r Cymro o denor Rhys Meirion eisioes wedi profi llwyddiant rhyngwladol ym maes opera
a recordio, a llwyddiant darlledu yng Nghymru.
The Board Y Bwrdd
Chair / Cadeirydd - Dilwyn Price
Retired teacher, headteacher and education officer now enjoying retirement with our grandchildren. I have always enjoyed performing arts and encouraged my family and school pupils to grasp opportunities and become actively involved. I am conductor of Cor Alaw, a mixed choir, organist at our local chapel and continue to be a great supporter of Urdd Gobaith Cymru.
​
Treuliais fy ngyrfa ym maes addysg, fel athro, pennaeth a swyddog addysg ond rwyf bellach wedi ymddeol ac yn mwynhau fy ymddeoliad a threulio amser gyda’n wyrion. Rwyf wedi mwynhau’r celfyddydau perfformio erioed ac wedi annog fy nheulu a fy nisgyblion i gymryd mantais o’r cyfleoedd sydd ar gael a chymryd rhan. Rwyf hefyd yn arwain Côr Alaw, sef côr cymysg, yn chwarae’r organ yn ein capel lleol ac yn parhau i gefnogi Urdd Gobaith Cymru.
​
Treasurer / Trysorydd - Don Milne
Since my retirement as a University Head of Computing, I have been a Conwy County Councillor. The early part of my career brought me to North wales where I lectured at Llandrillo College. I became involved with a number of local dramatic societies both in the production and performance side. This experience has shown me the benefits that the arts can bring to young people and society in general. Through CAT I am proud to be involved in encouraging the promotion of the arts within Conwy.
​
Yn dilyn fy ymddeoliad o fy swydd fel Pennaeth Cyfrifiadura mewn Prifysgol rwyf bellach yn un o Gynghorwyr Cyngor Conwy.
Ar ddechrau fy ngyrfa, treuliais amser yn darlithio yng Ngholeg Llandrillo, Gogledd Cymru. Ymunais â chymdeithasau drama lleol a chael profiad o berfformio a chynhyrchu. Diolch i’r profiad hwn, fe ddysgais am yr holl fanteision sydd gan y celfyddydau i’w cynnig, nid yn unig i bobl ifanc ond i gymdeithas yn gyffredinol.
Rwyf yn falch iawn o gael bod yn rhan o Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a chael cyfle i hybu’r celfyddydau yng Nghonwy.
Joann Rae
Joann has worked in the creative arts for 20 years and prior to that was a journalist.
She is passionate about theatre and film and has, for many years, worked with young writers as facilitator of the Young Creatives' Young Critics group.
​
Mae Joann wedi gweithio yn y celfyddydau mynegiannol am 20 mlynedd a chyn hynny roedd hi’n newyddiadurwraig.
Mae hi’n angerddol dros theatr a ffilm ac am nifer o flynyddoedd, mae hi wedi gweithio gydag ysgrifenwyr ifanc fel hwylusydd y grŵp Adolygwyr Ifanc Pobl Ifanc Creadigol.
​
​
​
Vice-Chair/Is-gadeirydd-Michael Tree
Michael is a Solicitor and Director of Swayne Johnson Limited. He grew up in Colwyn Bay.
His interests include literature, music and local history.
​
Mae Michael yn Gyfreithiwr a Chyfarwyddwr cwmni Swayne Johnson Cyf. Cafodd ei fagu ym Mae Colwyn. Mae’i ddiddordebau’n cynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes lleol.
Fundraising/Arian - Sarah Ecob
Sarah has over 30 years of working in the creative arts and is currently the Head of Economy and Culture for Conwy County Borough Council. Sarah is Chair of the National Venue Manager’s Network and a former Chair of the Llangollen International Musical Eisteddfod. Prior to moving to North Wales she worked at the National Theatre and the Hackney Empire.
​
Mae gan Sarah dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y celfyddydau creadigol ac ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Economi a Diwylliant gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae Sarah yn Gadeirydd Rhwydwaith Rheolwyr Canolfannau Cenedlaethol ac yn gyn Gadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Cyn symud i Ogledd Cymru bu’n gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol a’r Hackney Empire.
Kristen Gallagher
Kristen has worked in fundraising across education and the arts for 20 years and is currently Director of Development at the Rose Theatre Kingston. Prior to this she worked at the University of Exeter and Bangor University.
​
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Kate wedi gweithio i godi arian ar gyfer addysg a’r celfyddydau ac ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Datblygu’r Rose Theatre yn Kingston. Cyn hyn, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Caerwysg a Phrifysgol Bangor.
Lorraine Whalley - Secretary
After a career in hospitality, Lorraine has spent the last 10 years supporting Council administration & engaging in Community projects as Deputy Clerk to a local Town Council.
In 2021 Lorraine joined Venue Cymru as an Admin Officer (Business Support).
​
​
​
​
Gareth Leech
Gareth works for Cartrefi Conwy in a role that focuses on strategic projects. He grew up and still lives in Llandudno Junction, with his young family. He got involved with Conwy Arts Trust to help further the group's work and make a positive impact for local communities.
​
Mae Gareth yn gweithio i Gartrefi Conwy mewn swydd sy'n ymwneud a phrosiectau strategol yn bennaf. Fe'i magwyd yng Nghyffordd Llandudno ac mae'n byw yno o hyd gyda'i deulu ifanc. Dechreuodd Gareth gymryd yn Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy er mwyn rhoi hwb i waith y grwp a gwneud cyfraniad gwerth chweil i gymunedau lleol.
Rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cynnig gwaith i artistiaid lleol, er mwyn eu helpu i aros yn yr ardal. Rydym hefyd yn cynnal ac yn ariannu prosiectau sy’n denu artistiaid o bob cwr o’r byd, gan ehangu cwmpas ac effaith y celfyddydau yn ein cymunedau.
​
Testimonials.
'The Create Project has provided a really brilliant and unique kind of opportunity for a number of the young people that are known to CAMHS in Conwy. I believe that the project has contributed significantly to their recovery and maintenance of their emotional wellbeing.'
- Dr Helen Fitzpatrick (Consultant Child & Adolescent Psychiatrist)
'To say that the Young Critics scheme has been a helping hand in my career would be an understatement. ' - Young Critic
'Over the last 20 years I’ve been lucky enough to do my maths/author talks in festivals all over the UK including Hay, Edinburgh, Bath, Cardiff, Borders, Cheltenham and over in Dublin. They’re all good, but none were better than yours!' - Kjartan Poskitt, Author