Cronfa Grantiau Bach
Grant Ymddiriedolaeth Celf Conwy
​
Ydych chi’n fwrlwm o syniadau a chreadigrwydd? Ydych chi’n cynllunio prosiect neu ddigwyddiad celf newydd fydd yn rhoi budd i gymuned Conwy? Os felly, efallai bod modd i chi dderbyn Grant Ymddiriedolaeth Celf Conwy, sef hyd at £1000 tuag at eich costau.
Gallwch wneud cais am yr arian os:
-
Ydych chi’n sefydliad nid-er-elw gyda chyfansoddiad
-
Ydych chi’n cynllunio prosiect/digwyddiad celf newydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy
-
Ydi’ch prosiect/digwyddiad yn cael ei gynnal o fewn 12 mis i dderbyn yr arian
-
Ydi’ch prosiect/digwyddiad yn rhoi budd i drigolion Bwrdeistref Sirol Conwy
Gallwch ddefnyddio’r arian ar gyfer:
-
Ffioedd artistiaid
-
Cyhoeddusrwydd a marchnata
-
Llogi lleoliad
-
Deunyddiau ac offer
-
Gweithdai
Nid oes modd defnyddio’r arian ar gyfer:
-
Costau rhedeg eich sefydliad (cyllid craidd)
-
Prosiectau/digwyddiadau sydd eisoes ar waith
-
Ni fyddwn fel rheol yn ariannu prosiectau mewn ysgolion ond mae’n bosibl y byddwn yn gwneud eithriad os ydi’r elfen ysgol yn rhan o brosiect ehangach
-
Digwyddiadau a gynhelir yn flynyddol oni bai bod elfen ar wahân newydd neu’ch bod chi’n gallu dangos yn glir y bydd yr arian yn helpu gyda chynaliadwyedd hirdymor y digwyddiad/prosiect
Nodwch ein bod angen derbyn ceisiadau grant o leiaf 2 fis cyn y cynhelir y gweithgaredd / prosiect / digwyddiad.
Byddwn yn blaenoriaethu:
-
Prosiectau sy’n ceisio gwella iechyd a lles cymunedau Conwy
-
Prosiectau celf arloesol sy’n cyflwyno celf o ansawdd uchel er budd cymunedau Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Prosiectau sy’n rhoi cyfle i’r gymuned gael profiad ymarferol o gelf a rhyngweithio gydag artistiaid
Caiff yr holl ymgeiswyr eu sgorio yn erbyn meini prawf penodol. MAE’N RHAID i’ch cais ddangos sut mae’ch digwyddiad/prosiect yn bodloni’r meini prawf hyn:
Meini Prawf Asesu:
-
Safon Artistig: gwybodaeth am yr artistiaid sy’n cymryd rhan a manylion am eu profiadau blaenorol.
-
Budd i gymuned Bwrdeistref Sirol Conwy: ar gyfer pwy mae’r prosiect e.e. pobl leol, artistiaid ac ati; faint o’r cyfranogwyr fydd yn dod o Fwrdeistref Sirol Conwy; a fydd y gymuned yn profi ffurf newydd ar gelfyddyd?
-
Marchnata: am ba hyd y bydd y prosiect yn cael ei farchnata?
-
Hygyrchedd: ydi’r lleoliad yn addas i bobl anabl; ydi’r digwyddiad yn ddwyieithog; sut y byddwch chi’n targedu’ch cynulleidfa/cyfranogwyr, ydi’r prosiect ar gyfer grŵp penodol neu ydi o’n agored i bawb?
-
Cyllid Partneriaeth: ydych chi’n cyfrannu at y prosiect o’ch cronfeydd eich hun/cronfeydd eraill?
Faint allwch chi ymgeisio amdano?
Gallwch wneud cais am hyd at £1000.
Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod chi’n cofio bod cyllid yn brin a bod ceisiadau am lai o arian a’r dyfarniad yn cynrychioli canran fechan o’r costau cyffredinol yn fwy tebygol o lwyddo. Byddwn yn edrych yn ffafriol ar brosiectau sydd eisoes wedi diogelu cyllid cyfatebol.
Beth fyddwn ni’n ei ddisgwyl yn gyfnewid:
-
Cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a datganiadau i’r wasg
-
Ffurflen werthuso gyda manylion fel niferoedd a chyfranogwyr/cynulleidfa, o fewn chwe mis i gwblhau’r prosiect
-
Gwahoddiad i’r prosiect/digwyddiad
Gofynion eraill:
-
Cyfansoddiad neu gyfres o reolau
-
Copi o’ch cyfrifon diweddaraf, wedi’u llofnodi
-
Llythyrau o gefnogaeth i’ch prosiect/digwyddiad
-
Dyfynbris gan unrhyw gyflenwr nwyddau/gwasanaeth
Sut i wneud cais?
Cliciwch ar y ddolen hon, ac yna cliciwch anfon i gael y ffurflen gais:
Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy Grantiau Datblygu Celfyddydau – Ffurflen Gais .docx
Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais Grant Ymddiriedolaeth Celf Conwy a’i dychwelyd i:
Ymddiriedolaeth Celf Conwy (Grantiau)
D/o Venue Cymru
Promenâd
Llandudno
LL30 1BB
Mae modd gwneud cais am grant datblygu celf ar unrhyw adeg, ond mae’r dyfarniad yn amodol ar gyllid.
Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd.
Argymhellir yn gryf eich bod chi’n trafod eich cais cyn ymgeisio.
Ffôn: 01492 575572
E-bost: celf@conwy.gov.uk